Memorandwm Esboniadol ar gyfer y diwygiadau i Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019, sy'n cynnwys Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019.

 

Lluniwyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus ac fe'i gosodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â'r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1

 

Datganiad y Gweinidog

 

Yn fy marn i, mae'r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi darlun teg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig y Gorchymyn Cyflog ar gyfer Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol. Rwy'n fodlon bod y manteision yn cyfiawnhau'r costau tebygol.

 

 

 

 

 

Kirsty Williams AC

Y Gweinidog Addysg

22 Hydref 2019

 

 

 


RHAN 1

 

1.    Disgrifiad

 

Mae Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon (Cymru) 2019 ("y Gorchymyn") yn darparu ar gyfer tâl ac amodau cyflogaeth athrawon ysgol yng Nghymru, i'w penderfynu drwy gyfeirio at y darpariaethau a nodir yn adran 2 o Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019 ("y Ddogfen"). Daw darpariaethau'r Ddogfen i rym o 12 Tachwedd 2019, ac maent wedi'u hôl-ddyddio i 1 Medi 2019.

 

Cafodd cyfrifoldeb am dâl ac amodau athrawon ei ddatganoli i Weinidogion Cymru ar 30 Medi 2018 a chaiff ei adolygu bob blwyddyn. Mae'r Ddogfen i Gymru yn gymwys i athrawon a gyflogir mewn ysgolion a gynhelir mewn awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae Dogfen (Cymru) 2019 yn ddogfen newydd, ddiwygiedig yn lle Ddogfen 2018, a oedd yn cwmpasu Cymru a Lloegr.

 

 

2. Materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Bydd y darpariaethau o dan adran 2 o'r Ddogfen yn dod i rym yn ôl-weithredol o 1 Medi 2019.

 

 

3. Cefndir deddfwriaethol

 

Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i bennu cyflog ac amodau athrawon yng Nghymru drwy Orchymyn o dan adrannau 122 i 124 ac 126 ac 127 o Ddeddf Addysg 2002.  Cafodd y swyddogaethau hyn eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru ar 30 Medi 2018 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg (Lloegr) drwy Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018.

 

Mae adran 122 (1) o'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ar gyfer tâl athrawon ysgol yng Nghymru ac amodau cyflogaeth eraill sy'n gysylltiedig â'u dyletswyddau proffesiynol a'u hamser gwaith.

 

Mae adran 124 (3) o'r Ddeddf yn darparu y gall gorchymyn a wneir o dan adran 122 wneud darpariaeth trwy ddogfen, y mae'n rhaid ei chyhoeddi hefyd.

 

Mae adran 123 (3) o'r Ddeddf yn darparu y caiff gorchymyn o dan adran 122 wneud darpariaeth ôl-weithredol, ond nid er mwyn—

 

a. lleihau tâl mewn perthynas â chyfnod yn gyfan gwbl neu'n rhannol cyn gwneud y gorchymyn, neu

b. newid amod cyflogaeth er anfantais i athro mewn perthynas â chyfnod yn gyfan gwbl neu'n rhannol cyn gwneud y gorchymyn.

 

Mae adran 126 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r cyrff priodol hynny y maent yn teimlo eu bod yn berthnasol cyn gwneud unrhyw orchymyn o dan adran 122. Y cyrff perthnasol yw: cymdeithasau awdurdodau addysg lleol; awdurdodau addysg lleol, y rhai sy'n cynrychioli cyrff llywodraethu ysgolion, a chyrff sy'n cynrychioli athrawon ysgol (undebau athrawon).

 

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan y weithdrefn penderfyniad negyddol.

 

4. Diben ac effaith fwriadedig y ddeddfwriaeth

 

Mae'r Gorchymyn yn berthnasol i bob athro ysgol (fel y'i diffinnir yn adran 122 (3) i (6) o'r Ddeddf) yng Nghymru. Gwneir y Gorchymyn hwn yn flynyddol ac mae'n cyflwyno ystodau cyflog a lwfansau newydd yn y fframwaith cyflog cenedlaethol ar gyfer athrawon ysgol mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn unig. Mae gan ysgolion nad ydynt yn cael eu cynnal yng Nghymru ryddid a hyblygrwydd i fabwysiadu ystodau cyflog a lwfansau ar gyfer eu hathrawon sy'n adlewyrchu eu hamgylchiadau lleol orau.

 

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch pennu cyflog ac amodau athrawon yng Nghymru i Weinidogion Cymru gan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 a daeth darpariaethau perthnasol y Gorchymyn hwnnw i rym ar 30 Medi 2018. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi gwneud Gorchymyn 2019 ar wahân (Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Lloegr) 2019) ar gyfer athrawon ysgol yn Lloegr yn unig.

 

Yn dilyn trosglwyddo pwerau dros gyflog ac amodau athrawon i Weinidogion Cymru ar 30 Medi 2018, mae proses flynyddol newydd wedi’i sefydlu. Mae'r broses hon yn cynnwys y camau allweddol canlynol:

 

      Mae Fforwm Partneriaeth Cyflog Athrawon (pob undeb athrawon a chyflogwr) yn trafod cwmpas cylch gwaith drafft ac yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru;

      Mae Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi llythyr cylch gwaith ar gyfer Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB) sy’n amlinellu meysydd cyflog athrawon ac amodau y gallai fod angen eu newid;

      Mae IWPRB yn ystyried tystiolaeth a gyflwynwyd gan randdeiliaid ac yn darparu argymhellion i Weinidogion Cymru;

      Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried yr argymhellion ac yn gosod cyflog ac amodau athrawon yn dilyn ymgynghoriad ysgrifenedig gyda rhanddeiliaid allweddol.

 

Bydd Dogfen (Cymru) 2019 yn gymwys i bob athro mewn ysgolion a gynhelir mewn awdurdodau lleol yng Nghymru.

 

Mae Adran 1 o’r Ddogfen yn crynhoi’r newidiadau i’r cyflog a’r amodau a’r canllawiau cysylltiedig ers Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2018 a gwybodaeth berthnasol arall am y Ddogfen. Mae saith rhan a dau atodiad i Adran 2 o'r Ddogfen. Mae Rhannau 2 i 6 yn nodi sut y dylid pennu cyflog a lwfansau ar gyfer y gwahanol gategorïau o athrawon. Mae Rhan 7 yn nodi amodau cyflogaeth ar gyfer y gwahanol gategorïau o athrawon a fydd yn effeithiol fel telerau eu contractau cyflogaeth. Mae'r Atodiadau i adran 2 o'r Ddogfen yn nodi'r safonau perfformiad ar gyfer athrawon a materion dehongli. Mae Adran 3 o'r Ddogfen yn ganllaw statudol i gyd-fynd â'r darpariaethau yn Adran 2 ac mae'n disodli'r Adran 3 flaenorol.

 

Daw’r diwygiadau i’r Ddogfen yn dilyn adolygiad o gyflog athrawon yng Nghymru gan y IWPRB sydd newydd ei sefydlu. Cyflwynodd IWPRB wyth argymhelliad yn ymwneud â chyflog athrawon yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20, i’w hystyried gan y Gweinidog Addysg. Yn unol ag adran 126 o'r Ddeddf, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â rhanddeiliaid allweddol ar y newidiadau arfaethedig i'r Ddogfen.

 

Mae'r prif newidiadau i Adran 2 (adran gyflog) o'r Ddogfen a gafodd ei diwygio i gynnwys y canlynol:

      i.        codiad o 5% i isafswm y brif ystod cyflog i athrawon.

    ii.        codiad o 2.75% i uchafswm statudol y brif ystod cyflog, a holl isafsymiau ac uchafsymiau statudol yr ystod cyflog uchaf, ystod cyflog yr ymarferwyr arweiniol, ystod cyflog athrawon sydd heb gymhwyso, ystodau cyflog arweinwyr (gan gynnwys grwpiau penaethiaid) a phob lwfans ar gyfer pob ystod cyflog.

 

Mae yna hefyd rai newidiadau amrywiol a diweddariadau cyffredinol, gan gynnwys dileu cyfeiriadau at Loegr a diwygiadau i gyfeiriadau at ddeddfwriaeth nad yw'n berthnasol yng Nghymru.

 

Mae Adran 3 (canllawiau statudol) y Ddogfen hefyd wedi'i diwygio i ddarparu bod disgwyliad y byddai unrhyw bwyntiau graddfa cyflog dewisol yn cael eu codi 2.75% hefyd.

 

Yn hanesyddol, byddai Llywodraeth y DU yn gosod y Gorchymyn cyflog erbyn 10 Awst bob blwyddyn (ac eithrio 2018), i alluogi'r dyfarniad cyflog ac unrhyw newidiadau eraill i'r Ddogfen i ddod i rym o 1 Medi - y dyddiad y mae dyfarniadau cyflog athrawon bob amser wedi dod i rym. Fodd bynnag, oherwydd ymrwymiad a wnaed gan Weinidogion Cymru na fyddai unrhyw anfantais i gyflog athrawon yng Nghymru yn dilyn datganoli pwerau, eleni fe wnaeth Llywodraeth Cymru alinio ei phroses â’r Adran Addysg. Roedd hyn er mwyn sicrhau bod penderfyniad terfynol Gweinidogion Cymru mewn perthynas â’r dyfarniad cyflog yng Nghymru yn seiliedig ar yr holl wybodaeth bosibl, a bod Llywodraeth Cymru yn gallu gweithredu dyfarniad cyflog teg i athrawon ysgol yng Nghymru. Roedd hefyd angen ystyried dyfarniad cyflog athrawon yng nghyd-destun proses gyflog a dyfarniadau ehangach y sector cyhoeddus a darparu ymgynghoriad ystyrlon (8 wythnos) ar gyfer rhanddeiliaid. O ganlyniad i'r oedi hwn, mae angen i Weinidogion Cymru ddefnyddio'r pŵer o dan adran 123 (3) o Ddeddf Addysg 2002 i wneud y Ddeddf yn ôl-weithredol er mwyn i Adran 2 o’r Ddogfen fod yn effeithiol o 1 Medi 2019, unwaith y daw'r Gorchymyn i rym ar 12 Tachwedd 2019. Dyma'r un egwyddorion a oedd ar waith ar gyfer dyfarniad cyflog 2018.

 

Mae’r Gorchymyn yn dirymu Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2018 i’r graddau y mae’n berthnasol i athrawon ysgol yng Nghymru.

 

 

5. Ymgynghori

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad wyth wythnos o hyd â rhanddeiliaid rhwng 22 Gorffennaf 2019 a 13 Medi. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol isod.


RHAN 2 – ASESIAD EFFAITH RHEOLEIDDIOL

 

6. Opsiynau

 

Er mwyn cyflawni amcan y polisi, sef sefydlu system cyflog ac amodau i athrawon yng Nghymru, nodwyd yr opsiynau canlynol:

 

1.    Gwneud dim.

2.    Mabwysiadu dull deddfwriaethol  drwy weithredu newidiadau islaw'r rhai a argymhellir gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB).

3.    Mabwysiadu dull deddfwriaethol drwy weithredu newidiadau fel y'u hargymhellir gan yr IWPRB.

4.    Mabwysiadu dull deddfwriaethol drwy weithredu newidiadau uwchlaw'r rhai a argymhellir gan yr IWPRB.

 

7. Costau a buddiannau

 

Opsiwn 1 – Gwneud dim

 

Manteision

Yr unig fantais a nodwyd o ran gweithredu'r opsiwn sylfaenol hwn yw'r arbedion cost uniongyrchol posibl a wnaed o ran cyllidebau ysgolion. Roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i'r IWPRB yn glir, er y gallem argymell codiad cyflog o hyd at 2% i athrawon, mae'n bosibl na ellir fforddio unrhyw gynnydd a gallai roi pwysau gormodol ar gyllidebau ysgolion neu awdurdodau lleol.  Roedd Trysorlys Ei Mawrhydi yn glir bod adrannau'r llywodraeth yn rhydd i weithredu codiadau cyflog o dros 2% yn y sector cyhoeddus, ond na fyddai'r Trysorlys yn ariannu'r rhain.

 

Costau

Nid oes unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig â'r opsiwn hwn.  Fodd bynnag, cafodd yr opsiwn i wneud dim ei ddiystyru'n gyflym, ac mae'n dwyn risg uchel. Yn ein barn ni, er y gall fod rhai manteision o ran arbed costau uniongyrchol, byddai hyn yn cael effaith negyddol iawn ar y polisi am y rhesymau canlynol:

 

·         Gan mai hon yw'r flwyddyn gyntaf y bydd cyflog ac amodau yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru, mae angen sefydlu system sy'n cydnabod ac yn gwobrwyo'r proffesiwn addysgu yng Nghymru, ac mae amcan polisi i wneud hyn.

·         Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad gwleidyddol i sicrhau na fydd unrhyw 'niwed' i'r proffesiwn yn dilyn y broses ddatganoli. Felly, disgwylir y byddwn o leiaf yn cyfateb i unrhyw gynnydd a ddyfarnwyd yn Lloegr, sef cynnydd o 2.75% i isafswm ac uchafswm pob graddfa gyflog ar gyfer 2019/20.

·         Mae'r broses cyflogau newydd ei sefydlu yn cynnwys penodi Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru. Mae'r IWPRB wedi argymell 2.4% ym mhob un o'r graddfeydd cyflog a chynnydd o 5% i brif raddfa gyflog athrawon. Byddai gwneud dim yn golygu anwybyddu cyngor yr IWPRB.

 

Opsiwn 2 – Mabwysiadu dull deddfwriaethol drwy weithredu newidiadau islaw'r rhai a argymhellir gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB).

Manteision

Yn yr un modd ag Opsiwn 1, mae manteision ariannol yn gysylltiedig â rhoi dyfarniad cyflog islaw'r hyn a argymhellir gan yr IWPRB. Chyflwynodd Llywodraeth Cymru dystiolaeth ysgrifenedig a oedd yn ategu ei argymhelliad, sef cynnydd o hyd at 2% yn y bil cyflog athrawon ar gyfer 2019/20. Byddai cynnydd o 2% yn unol â'r hyn y byddem yn disgwyl bod ALlau wedi cyllidebu ar ei gyfer yn 2019/20, a byddai hyn yn gymaradwy â dyfarniadau cyflog eraill yn y sector cyhoeddus (e.e. y Gwasanaeth Sifil).

 

Costau

Yn nhystiolaeth Llywodraeth Cymru i'r IWPRB, nodwyd y byddai cynnydd o 2% mewn cyflogau yn golygu cost ragamcanol flynyddol o £24.6m. Ni ddisgwylir i Lywodraeth Cymru gael cyllid canlyniadol ac felly gall unrhyw gynnydd roi pwysau ar gyllidebau presennol ysgolion.

 

Mae risg bosibl i'r gwaith o recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru o dan yr opsiwn hwn, am fod y cynnydd arfaethedig mewn cyflogau yn is na'r cynnydd a ddyfarnwyd yn Lloegr.

 

Opsiwn 3 – Mabwysiadu dull deddfwriaethol drwy weithredu newidiadau fel y'u hargymhellir gan yr IWPRB.

Manteision

Argymhellodd yr IWPRB godiad o 5% i isafswm y brif raddfa gyflog a chodiad o 2.4% i isafswm ac uchafswm graddfeydd cyflog a lwfansau eraill. Byddai derbyn yr argymhellion fel y'u rhagnodir gan yr IWPRB yn dangos hyder yn y system newydd a rôl yr IWPRB.

 

Gall dderbyn codiad i isafswm y brif raddfa gyflog sy'n uwch na'r codiad yn Lloegr gael effaith gadarnhaol ar ddenu athrawon sydd newydd gymhwyso i'r proffesiwn yng Nghymru.

 

 

Costau

Cost ragamcanol cynnydd o 2.4% yw £31.0m y flwyddyn.

Byddai cynyddu isafswm y brif raddfa gyflog 5% yn golygu cost o £640k y flwyddyn.  Felly, amcangyfrifir mai cost ychwanegol yr opsiwn hwn fydd £31.6m y flwyddyn. Ni ddisgwylir i Lywodraeth Cymru gael cyllid canlyniadol ac felly gall unrhyw gynnydd roi pwysau ar gyllidebau presennol ysgolion.

 

 

 

 

 

Opsiwn 4 – Mabwysiadu dull deddfwriaethol drwy weithredu newidiadau uwchlaw'r rhai a argymhellir gan yr IWPRB.

Manteision

Mae Prif Weinidog Cymru a'r Gweinidog Addysg eisoes wedi ymrwymo i sicrhau na fydd unrhyw 'niwed' i'r proffesiwn yn dilyn y broses ddatganoli. Mae'r Adran Addysg wedi dyfarnu codiad o 2.75% i isafswm ac uchafswm y graddfeydd cyflog a lwfansau i athrawon yn Lloegr. Er bod hyn yn uwch na'r ganran a argymhellir gan yr IWPRB, byddai cysoni cynnydd â'r cynnydd yn Lloegr yn sicrhau cydraddoldeb rhwng cyflogau, ac yn bodloni'r ymrwymiad dim niwed. Gall yr opsiwn hwn hefyd sicrhau bod y gwaith o gadw athrawon yng Nghymru yn parhau i fod yn sefydlog. 

 

Yn ogystal â hyn, byddai'r opsiwn hwn hefyd yn cynnwys cyfateb i'r cynnydd o 5% i isafswm y brif raddfa gyflog a argymhellir gan yr IWPRB.

 

Gall dderbyn codiad i isafswm y brif raddfa gyflog sy'n uwch na'r codiad yn Lloegr gael effaith gadarnhaol ar ddenu athrawon sydd newydd gymhwyso i'r proffesiwn yng Nghymru.

 

Costau

Cost ragamcanol codiad o 5% i isafswm y brif raddfa gyflog a chodiad o 2.75% i holl isafsymiau ac uchafsymiau graddfeydd cyflog a lwfansau eraill fyddai £34.6m y flwyddyn. 

 

Ni ddisgwylir i Lywodraeth Cymru gael cyllid canlyniadol ac felly gall unrhyw gynnydd roi pwysau ar gyllidebau presennol ysgolion.

 

 

Crynodeb o'r opsiwn a ffefrir

 

I grynhoi, yr opsiwn a ddewiswyd yw Opsiwn 4, ond gydag amrywiad i gynnwys argymhelliad yr IWPRB, sef codiad o 5% i isafswm prif raddfa gyflog athrawon. Er mwyn sicrhau nad yw athrawon yng Nghymru yn wynebu unrhyw anfantais ar ôl datganoli, byddai'r dyfarniad cyflog ar gyfer 2019/20 yn cyfateb i'r dyfarniad yn Lloegr, gyda chynnydd pellach i isafswm y brif raddfa gyflog, gan wneud cyfanswm o 5%. Byddai cynyddu isafswm statudol y brif raddfa gyflog 5% yn golygu cost ychwanegol o £640k y flwyddyn.

Gwnaed y penderfyniad hwn drwy ystyried y manteision y gellir eu sicrhau fel y nodir uchod, gan gynnwys:-

 

·         cydraddoldeb rhwng cyflogau yng Nghymru a'r proffesiwn yn Lloegr.

·         Effaith gadarnhaol ar ddenu athrawon sydd newydd gymhwyso i'r proffesiwn yng Nghymru.

 

Nid yw'r newidiadau deddfwriaethol hyn yn effeithio ar fusnesau, elusennau na chyrff gwirfoddoli.

 

Mae'r effaith ar y sector cyhoeddus yn ymwneud â chyllidebau ysgolion a gynhelir yng

Nghymru a Lloegr i'r graddau y mae'n gwneud newidiadau i gyflog ac amodau athrawon a gyflogir gan awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu.

 

 

8. Ymgynghori

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad wyth wythnos o hyd â rhanddeiliaid ar argymhellion y Gweinidog ar gyfer newidiadau i gyflog athrawon rhwng 22 Gorffennaf 2019 a 13 Medi 2019. Rhanddeilaid allweddol y cytunwyd arnynt yw'r sefydliadau/unigolion yr ymgynghorir â nhw fel rhan o'r model cyflog ac amodau a sefydlwyd cyn datganoli. Mae'r ymgyngoreion yn cynnwys; awdurdodau lleol, undebau athrawon ac awdurdodau esgobaethol, y mae pob un ohonynt wedi'u cynrychioli yn Fforwm Partneriaeth Cyflog ac Amodau Athrawon.

 

Cafwyd cytundeb cyffredinol ar y cynigion i fodloni'r ymrwymiad 'dim niwed', ac i gynyddu isafsymiau ac uchafsymiau'r pwyntiau graddfa gyflog 2.75%. Cytunwyd yn gyffredinol hefyd i gynyddu isafswm y brif raddfa gyflog 5%. Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ni ddarparwyd unrhyw dystiolaeth a oedd wedi ei gwneud yn ofynnol i ailystyried cynigion y Gweinidog.

 

 

9. Asesu'r Gystadleuaeth

 

Ddim yn gymwys

 

 

10. Adolygiad ar ôl gweithredu

 

Mae hon yn broses ddeddfwriaethol flynyddol ac mae'r newidiadau hyn ond yn gymwys ar gyfer 2019/20. Mae'r broses cyflogau ar gyfer blwyddyn 2 wedi dechrau, a bydd hyn yn pennu'r diwygiadau i'r Ddogfen ar gyfer 2020/21.